Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Menter a Busnes

Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Tystiolaeth gan BT Cymru – AYP 22

 

Description: BT_200pix_posPwyllgor Menter a Busnes

Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i’r Byd Gwaith

 

1.       Mae BT Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes. Gydag economi’r byd yn newid yn gyflym a gwasanaethau digidol yn gynyddol bwysig ym meysydd masnach, creadigol a chyfathrebu, rhaid helpu pobl ifanc i gael y sgiliau angenrheidiol er diogelu dyfodol gweithlu’r wlad. Fel darparwr gwasanaethau telathrebu a digidol blaenllaw, ac fel cyflogwr sector preifat pwysig yng Nghymru mae BT mewn sefyllfa ddelfrydol i sylwi ar sut i helpu pobl ifanc i gael gyrfaoedd yn y sector digidol.   

 

2.       Fel cwmni angor yng Nghymru, mae BT yn edrych ar y potensial i dyfu sawl rhan o’r busnes, yn cynnwys datblygu meddalwedd, peirianneg, rheoli rhwydweithiau, manwerthu a sgiliau cysylltiedig. Mae ein prentisiaid yn datblygu sgiliau yn y meysydd hyn er cael y cymwysterau perthnasol, ond rhaid i bob aelod o dimau BT feddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth – sy’n sylfaen hanfodol i yrfa yn y sector. Rydym wedi nodi dau faes sgiliau newydd sydd angen eu hychwanegu at y darpariaethau hyfforddi cyfredol: sgiliau amlgyfrwng/aml-faes a diogelwch cyfrifiaduron. Mae dealltwriaeth o bynciau MTEC (mathemateg, technoleg, peirianneg & cyfrifiadura) yn sylfaen gadarn i ddilyn gyrfaoedd ym meysydd telathrebu a thechnoleg gwybodaeth, ond hefyd nifer o yrfaoedd eraill, galwedigaethol neu fel arall. 

 

Awdurdodau lleol a’r system addysg

 

3.       Mae BT yn deall pwyslais Llywodraeth Cymru ar roi ysgolion mewn bandiau a rheoli eu perfformiad, a’r angen i ddangos llwyddiant ar sail nifer o feini prawf. Mae’r Adolygiad Asesu  & Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru, o dan arweiniad yr Athro Graham Donaldson ar ran Llywodraeth Cymru, yn gyfle da i gryfhau darpariaethau llythrennedd a rhifedd ac mae ystyried lle technoleg cyfathrebu a gwybodaeth o fewn y cwricwlwm yn gam pwysig ymlaen.  Mae dealltwriaeth gadarn o dechnoleg gwybodaeth yn hanfodol yn y byd modern ac fel cyflogwr mae BT yn edrych i recriwtio pobl ifanc gyda’r sgiliau hynny fel sylfaen i ddatblygu sgiliau digidol pellach.       

 

4.       Bydd rhaid ysbrydoli peirianwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol y dyfodol yn gynnar yn eu bywydau er mwyn gwella ymwybyddiaeth o sut mae sgiliau cyfrifiadura a digidol yn gallu cynnal amrediad eang o yrfaoedd. Mae BT wedi gweithio fel partner yr elusen addysg Techniquest i wneud yr union beth hynny wrth gynnal ‘Bytesize Science,’ rhaglen o sioeau llwyfan rhyngweithiol sy’n cyflwyno cyfrifiadura mewn modd ymarferol. Yn awr mae BT yn cydweithio â Techniquest i greu gwersi cyfrifiadura dwyieithog ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 ar draws y wlad, gyda gwirfoddolwyr BT yn helpu i’w cyflwyno dros y misoedd nesaf. Bydd rhaid i ddiwydiant gyfrannu at y cwricwlwm os yw’r system addysg am ddiwallu anghenion sgiliau’r sector digidol, sy’n esblygu’n barhaus. 

 

Recriwtio & cyngor gyrfaoedd

 

5.       Gyda’r economi digidol yn faes tyfiant allweddol, rhaid gwneud peirianneg a chyfrifiadura’n opsiynau gyrfaoedd cadarn. Ond, mae cyngor gyrfaoedd ysgolion a cholegau ar sgiliau digidol yn amrywio’n helaeth yn nhermau cynnwys a darpariaeth. Gellir dweud yr un peth am sectorau eraill ond mae’n waeth i’r maes digidol oherwydd nid yw llawer yn gallu diffinio neu esbonio’i union ystyr. Mae’n un maes ble gallai a dylai busnesau gynghori arno. Bydd yn bwysig cynnwys cyflogwyr er diwallu’r angen amlwg i addysgu ac esbonio’r sgiliau a’r sector yn gyffredinol. Ymddengys bod gwaith i wella sgiliau technoleg gwybodaeth yn amrywio a bydd hynny’n parhau tan y sefydlogir y cwricwlwm. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae rhwystrau rhag hyfforddi athrawon oherwydd nid yw technoleg gwybodaeth yn rhan o’r cwricwlwm. 

 

6.       Yng Nghymru, mae BT yn cynnal rhaglen Ysbrydoli Gwaith, gweithdy un wythnos sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion TGAU ymweld â BT am brofiad ymarferol o fywyd fel prentis BT. Datblygwyd a rhedir gan brentisiaid er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc sy’n gweithio ym meysydd telathrebu, cyfrifiadura a pheirianneg i drosglwyddo profiadau gwerthfawr am yrfaoedd yn y sector. Yn ogystal â dysgu am waith peirianwyr a thechnegwyr BT, bydd y disgyblion yn derbyn ‘cwrs cryno’ mewn sgiliau bywyd hanfodol, yn cynnwys technegau cyfweld, cyflwyno gwybodaeth a llunio CV – gan helpu pobl ifanc i gael gwaith, dim ots pa faes byddant yn dewis. Mae datblygu’r sgiliau hyn yn hollbwysig oherwydd o’n profiad ni, er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn barod i ddechrau eu prentisiaeth, mae 10% yn brwydro ar y cychwyn gyda phethau sylfaenol, megis sut mae cyflogau’n gweithio. Ni fydd llawer ohonynt wedi trefnu cyfrif banc cyn dod atom ac ni fydd eraill yn deall pa mor bwysig yw rheoli amser a chyrraedd gwaith yn brydlon bob dydd. Mae pethau fel hyn yn adlewyrchu problemau cyffredin gyda sgiliau cyflogadwyedd a’r angen i wneud mwy yn ein hysgolion i baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith. 

 

7.       Tu allan i ysgolion a cholegau, mae BT yn gwneud ymdrech sylweddol i ddangos y gwahanol lwybrau gyrfaoedd gallwn gynnig ym meysydd peirianneg a gwyddoniaeth gyfrifiadurol, gyda’n gweithwyr yn mynychu ffeiriau gyrfaoedd ar hyd a lled y wlad. Rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar ddenu menywod i’r diwydiant, gan weithio gyda phartneriaid fel Chwarae Teg a Llywodraeth Cymru i sefydlu rhwydwaith cyflogwyr gyda’r nod o helpu menywod i ystyried rolau nad ydynt wedi ystyried yn draddodiadol.     

 

8.       Ym Mai 2014 cyhoeddodd Openreach, busnes o fewn Grŵp BT, gynlluniau i greu 190 swydd beirianneg newydd yng Nghymru, gyda’r nod o ddenu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol. Llwyddwyd i ddenu nifer fawr o geisiadau gyda chymorth dyddiaduron fideo a phrofiadau unigolion ar ein portffolio recriwtio www.bt4me.co.uk sy’n cynnwys enghreifftiau ymarferol yn herio delweddau traddodiadol o rolau menywod yn y gweithle. Mae rhaglenni prentisiaeth BT yng Nghymru wedi gweld cynnydd yn nifer y prentisiaid benywaidd o 3% yn 2013/14 i 14% yn 2014/15 hyd yma.   

 

BT Cymru – Tachwedd 2014